Cymraeg
Wefan Gweithrediad Cymunedol ar Dlodi Tanwydd

Gweithredu Cymuned Gymraeg ar Dlodi Tanwydd!
Ers ei lansio ym 2016, mae'r wefan wedi gwneud gwybodaeth ymarferol ac adnoddau ar gael i grwpiau ac asiantaethau lleol di-ri, gan eu helpu i helpu eraill sy'n byw mewn tlodi tanwydd (1).
Am fod bron i un o bob pedair aelwyd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd a hyd at 65% o bobl yn siarad Cymraeg (2) mewn rhai ardaloedd, roeddem yn meddwl ei bod hi'n bwysig gwneud ein hadnoddau mwyaf poblogaidd yn 'y gymuned' ar gael yn yr iaith Gymraeg.
Pecynnau Cychwyn Digwyddiad Cymunedol
Gobeithiwn y bydd yr adnoddau hyn â'r pecynnau cychwynnol yn ddefnyddiol. Dylech eu lawr lwytho mor aml ag y dymunwch a chofiwch ymweld â'r brif wefan am dudalennau adnoddau a gwybodaeth eraill (yn Saesneg).
Bingo Ynni
Pecyn Cychwyn
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i hyrwyddo a rhedeg sesiwn bingo ynni cymunedol. Darllenwch trwy'r ddogfen Cyflwyniad a Chyfarwyddiadau Bingo Ynni yn gyntaf am awgrymiadau ar sut i gael y gorau ô'ch sesiwn.
Beth sydd wedi'i gynnwys?
- Templed posteri digwyddiad ynni hwylus.
- Cyflwyniad a chyfarwyddiadau bingo ynni.
- Cardiau bingo gwag.
- Carden galwr bingo ynni 1 - 40.
- Cardiau bingo wedi'u hargraffu ymlaen llaw.
Cwis Lluniau
Pecyn Cychwyn
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i hyrwyddo a rhedeg sesiwn cwis lluniau cymunedol. Mae cyfarwyddiadau llawn wedi'u cynnwys ond gallwch addasu'r cwis, fodd bynnag, mewn unrhyw ffordd!
Beth sydd wedi'i gynnwys?
- Templed posteri digwyddiad ynni hwylus.
- Cyfarwyddiadau cwis lluniau.
- Cwis lluniau.
- Atebion cwis lluniau.
- Carden sgorio cwis lluniau.
Cyngor Ynni Cartref
Delio â Lleithder a Chyddwysiad
Taflenni Gwybodaeth - Cyngor Ynni Cartrefi
Mae'r daflen hon yn esbonio sut y cafodd llaith a chyddwysiad ei achosi â'r effaith y gallai ei gael ar gartref yr unigolyn. Mae'n darparu'r awgrymiadau gorau i leihau cyddwysiad yn y cartref.
LawrlwythwchPecyn Cyngor Ynni ar gyfer Cartrefi heb Nwy Prif gyflenwad
Taflenni Gwybodaeth - Cyngor Ynni Cartrefi
Cyngor ymarferol ar arbed ynni a lleihau costau tanwydd ar gyfer cartrefi oddi ar y grid nwy prif gyflenwad.
LawrlwythwchPum Cam Syml i Reoli Eich Biliau Ynni
Taflenni Gwybodaeth - Cyngor Ynni Cartrefi
Cyngor uniongyrchol ar gyfer rheoli'ch biliau ynni i'ch helpu i fforddio i gadw'n gynnes.
LawrlwythwchAdnoddau Gêm Gymunedol
Templed Poster Digwyddiad Ynni Hwylus
Gemau Cymunedol - Hyrwyddo Digwyddiadau
Poster drafft i sefydliadau eu defnyddio wrth gynnal digwyddiadau sy'n ymwneud ag ynni. Gellir personoli'r poster gyda logos a manylion y digwyddiad.
LawrlwythwchCwis Arbed Ynni
Gemau Cymunedol - Cwis Arbed Ynni
Cwis hwylus yw hwn i'w ddefnyddio mewn digwyddiadau neu weithdai ynni i gynorthwyo'r rhai sy'n mynychu i ddeall sut eu bod nhw'n ynni effeithlon (neu os nad ydynt!). Nôd y cwis yw canfod a yw'r rhai sy'n cymryd rhan yn 'arbedwyr ynni' neu 'wastraffwyr ynni'.
LawrlwythwchCyfarwyddiadau Gêm Watedd
Gemau Cymunedol - Gêm Watedd
Wedi'i ddatblygu a'i atgynhyrchu gyda chaniatâd Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Bolton a Chyngor Bolton, mae'r Gêm Watedd yn gêm ryngweithiol hwylus y gellir ei chwarae mewn unrhyw ddigwyddiad er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o faint mae eitemau cartref bob dydd yn costio i'w defnyddio, i helpu preswylwyr tai i reoli eu hegni'n well. Mae'r ddogfen hon yn darparu cyfarwyddiadau llawn i'r rhai sydd am redeg y Gêm Watedd. Mae'r gêm yn gweithio'n gystal hefyd fel cyflwyniad PowerPoint neu ar gardiau wedi'u hargraffu.
LawrlwythwchGêm Watedd
Gemau Cymunedol - Gêm Watedd
PowerPoint y Gêm Watedd. Gellir cyflwyno'r gêm hon fel PowerPoint ond mae'n gweithio'n well os gopïwch y lluniau ar gerdyn (A3 neu fwy!!). Gweler Cyfarwyddiadau'r Gêm Watedd am ragor o wybodaeth.
Lawrlwythwch
Hoffai NEA ddiolch i Dîm Adran Yr Iaith Gymraeg British Gas am eu cymorth wrth gyfieithu'r adnoddau hyn.
Am ragor o wybodaeth am waith NEA yng Nghymru, ewch i Wefan
NEA Wales.
Rhannwch Hyn
Helpwch ni trwy rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.